Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Public Accounts Committee
|
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay Caerdydd / Cardiff CF99 1NA
14 Ionawr 2015
|
Annwyl Gyfaill
Ymchwiliad i werth am arian buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliadi werth am arian o ran cynnal a chadw a gwella rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion a ganlyn.
- A yw dulliau Llywodraeth Cymru o roi prosiectau mawr ar waith i wella cefnffyrdd yn sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys:
- Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o gynllunio a phrisio cynlluniau;
- Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi prosiectau ar waith ac yn eu gwerthuso;
- Sut y gallai wella’r modd y mae’n cynllunio prosiectau ac yn eu rhoi ar waith.
- I ba raddau y mae’r dulliau presennol o gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith drwy’r Asiantau Cefnffyrdd wedi sicrhau gwerth am arian;
- Sut y gellir gwella swyddogaethau’r Asiantau Cefnffyrdd o ran cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd, a hynny yng nghyd-destun adolygiad Llywodraeth Cymru o’r asiantau hyn.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddPAC@Cynulliad.Cymru
Fel arall, gallwch ysgrifennu at yr isod:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai sylwadau gyrraedd erbyn dydd Mawrth, 13 Chwefror 2013. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Neu, gallwch ofyn i’r Clerc anfon copi caled o’r polisi atoch (0300 200 6565).
Yn gywir
Darren Millar AC
Cadeirydd